Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                     Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwyntiau a godwyd ynghylch y personau y cyfeirir atynt yn y rhaglith y mae rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â hwy er mwyn cyflawni gofynion adran 52(4) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”). Cyfeiriwyd yn benodol at Archwilydd Cyffredinol Cymru er mwyn cydymffurfio ag adran 52(4)(b) oherwydd rheoliad 4, sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cyfnod ar gyfer ymchwiliadau a gynhelir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 15 o’r Ddeddf. Cyfeiriwyd at y personau sydd wedi eu hychwanegu gan reoliad 2(2) eto i nodi pa bersonau yr ymgynghorwyd â hwy yn benodol yn unol ag adran 52(4)(c). Er bod y Llywodraeth yn derbyn y byddai cyfeirio at “unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol” ac “os yw’r rheoliadau yn diwygio adran 6(1) er mwyn ychwanegu person, y person hwnnw” wedi bod yn ddigon, ym marn y Llywodraeth, mae’r rhaglith yn ei gwneud yn ddigon clir y cydymffurfiwyd ag adran 52(4) ac felly nid yw’n ystyried bod angen unrhyw ddiwygiad.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                     Nid yw’r Llywodraeth yn credu bod y ffordd y mae rheoliadau 3 a 4 wedi eu drafftio ar hyn o bryd yn amwys ac mae’n ystyried bod y ddau reoliad wedi eu drafftio yn ddigon eglur. O ganlyniad, nid yw’r Llywodraeth yn ystyried bod angen gwneud unrhyw newidiadau i reoliadau 3 a 4 mewn cysylltiad â hyn.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:                     Mae’r Llywodraeth wedi ystyried a ddylai’r cyfeiriad at “Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru” yn rheoliad 2(2) fod yn gyfeiriad at “Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru”, yn sgil Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998 (O.S. 1998/678) ar ei ffurf ddiwygiedig. Fodd bynnag, penderfynodd y Llywodraeth gyfeirio at “GIG” yn hytrach nag at “Gwasanaeth Iechyd Gwladol” gan fod “GIG” yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y Ddeddf, gan gynnwys yn adran 6(1)(d). Ni ddefnyddir yr enw llawn ar gyfer y GIG ar unrhyw adeg yn y Ddeddf ac eithrio pan fo’r Ddeddf yn cyfeirio at Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae’r Llywodraeth o’r farn, felly, fod cyfeirio at “Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru” yn fwy cyson â’r Ddeddf ac nad oes unrhyw amwysedd o ran pa gorff sydd o dan sylw. O ganlyniad, nid yw’r Llywodraeth yn ystyried bod angen diwygiad.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:                     Mae’r Llywodraeth yn derbyn y byddai mewnosod paragraff newydd “(da)” yn hytrach na pharagraff newydd “(dd)” yn rheoliad 2(3) yn fwy cyson â’r Ddeddf. Er nad yw hyn yn newid yr effaith gyfreithiol, bydd y Llywodraeth yn ceisio diwygio hyn cyn i’r offeryn gael ei wneud.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:                     Mae’r Llywodraeth yn nodi bod pennawd rheoliad 4 yn cyfeirio at yr “Archwilydd Cyffredinol” yn hytrach nag at “Archwilydd Cyffredinol Cymru” ond mae’r Llywodraeth yn anghytuno y dylai’r pennawd gyfeirio at “Archwilydd Cyffredinol Cymru” oherwydd bod y pennawd hwnnw’n adlewyrchu pennawd adran 15 o’r Ddeddf, sef “Yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol”. At hynny, mae adran 15 o’r Ddeddf yn cyfeirio’n barhaus at yr “Archwilydd Cyffredinol” mewn perthynas â’r cyfnod ar gyfer ymchwiliadau. O ganlyniad, nid yw’r Llywodraeth yn ystyried bod angen diwygiad.

 

Pwynt Craffu Technegol 6:                     Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y gallai’r cyfeiriadau at “cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf” fod yn gyfeiriadau at “personau a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf” er mwyn adlewyrchu’r pŵer galluogi yn adran 52(1), sy’n cyfeirio at “person”. Fodd bynnag, “ystyr “corff cyhoeddus”” yw enw adran 6 o’r Ddeddf ac mae adran 6(1) yn nodi bod pob un o’r personau a bennir yn “gorff cyhoeddus” at ddibenion Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf. O ganlyniad, mae’r Llywodraeth o’r farn bod y cyfeiriad at “cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf” yn ddigon clir ac nad oes angen unrhyw ddiwygiadau mewn cysylltiad â hyn.

Mae’r Llywodraeth yn derbyn bod Trafnidiaeth Cymru a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gwmnïau cofrestredig sy’n cael eu hychwanegu at adran 6(1) ac mae’r Memorandwm Esboniadol yn ei gwneud yn glir mai dim ond i swyddogaethau o natur gyhoeddus y cwmnïau hynny y bydd Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf yn gymwys. Fodd bynnag, cyfeirir at y cwmnïau hynny fel “corff cyhoeddus” at ddibenion Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf oherwydd eu bod yn cael eu hychwanegu at adran 6(1). Mae’r cyfeiriadau drwy gydol yr offeryn, felly, yn cyfeirio at y personau a fydd yn “corff cyhoeddus” at ddibenion Rhannau 2 a 3.

 

Pwynt Craffu Technegol 7:                     Mae’r Llywodraeth yn fodlon ei bod yn glir bod rheoliad 4(2) yn addasu adran 15, a noda nad oes adran 6(6) yn y Ddeddf. Nid yw’r Llywodraeth yn ystyried bod angen diwygiad.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:               Mae’r Llywodraeth wedi ystyried a allai enw’r offeryn beri dryswch ond, ar ôl dadansoddi’r mater, mae’n fodlon bod yr enw yn dangos yn fanwl gywir beth yw natur yr offeryn.

 

Y cywiriadau sydd i’w gwneud cyn gwneud yr Offeryn Statudol

CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024

The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (Public Bodies) (Amendment) Regulations 2024

Bydd y cyfeiriad at baragraff (dd) yn rheoliad 2(3) yn cael ei ddiwygio i (da).

Bydd y cyfeiriad at baragraff (dd) yn rheoliad 2(3) yn cael ei ddiwygio i (da).